25 - 28 Ebrill 2019 | Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd

RawFfest - Youth Arts Festival

‘Sut mae celf wedi fy helpu i deimlo eto’ - Stori Celf Ieuenctid Meha

Postiwyd gan Blog

Mae’r celfyddydau’n rhan o’m bywyd erioed. Pan oeddwn yn blentyn, byddwn yn sgrifennu tudalen ar ôl tudalen o syniadau ar gyfer nofelau. Treuliwn oriau bwy’i gilydd yn creu cymeriadau ac yn sgrifennu pytiau roedden nhw’n eu hysbrydoli. Aeth i’r fan lle, am flynyddoedd lawer, llyfrau nodiadau oedd yr unig anrhegion gawn i ar fy mhen-blwydd. Byddwn hefyd yn lluniadau pethau roedd yn fy llonni – anifeiliaid a gwisgoedd i ‘Meha hy^n’ eu gwisgo. Roedd yn hwyl fawr.

‘Sut mae celf wedi fy helpu i deimlo eto’ - Stori Celf Ieuenctid Meha

Cawn glod gan fy chwaer am f’ymroddiad i luniadu, a chynigiai fy rhieni fi mewn cystadlaethau yr enillais rai ohonynt. Fel yr es i oed, er bod yn falch o f’awch, anogodd fy rhieni fi i ganolbwyntio ar bynciau academaidd fel y gwyddorau a mathemateg. Roedd gan fy rhieni ill dau yrfaoedd sefydlog ym maes gofal iechyd ac arnyn nhw eisiau i mi a’m chwaer fod yr un mor sicr yn y dyfodol.Gwrandewais arnyn nhw a dechrau gweld fy nyfodol mewn gofal iechyd. Cyn hir, dim ond pan oedd y felan arnaf a minnau am i hen ffrind fy nghysuro y byddwn yn sgrifennu ac yn lluniadu.

Gyda threigl amser, cafodd fy chwaer ei derbyn i ysgol feddygaeth ac roeddem i gyd wrth ein boddau! Roeddwn yn meddwl yn fawr o’m chwaer ac o’i gweld mor hapus, roedd arnaf eisiau dilyn yn ei chamre. Cefais yr un canlyniadau da â hithau yn yr arholiadau TGAU ond, fel yr es yn fy mlaen i’r coleg, dechreuais deimlo’n wahanol. Mae blynyddoedd glasoed yn adeg anodd i bawb bron ac roeddwn i’r un fath yn hynny o beth. Ond yn f’achos i, dechreuais fynd yn bur wael.

Wyddwn i ddim ar y pryd, ond roedd fy iechyd meddwl yn gwaethygu o dipyn i beth - dechreuais fy nghael fy hun yn arafach o lawer yn gwneud tasgau sylfaenol - fel brwsio fy nannedd a chymryd cawod, hyd nes i mi fynd heb wneud yr un o’r ddau am ddyddiau bwy’i gilydd. Treuliwn gymaint o amser ag y bai modd yn cysgu. Doedd arna i ddim eisiau deffro – roedd y dyddiau’n rhy hir a llethol, a chysgu oedd f’unig ddihangfa. Doeddwn i ddim yn deall yn iawn beth oedd yn digwydd – yn meddwl fy mod yn ddiog ac yn fy nwrdio fy hun yn aml.

Cawn drafferth yn f’ysgogi fy hun i wneud dim byd – roedd hi’n anodd gweithredu, a byddwn yn eistedd am oriau’n syllu i ganol unlle.Gallai fy rhieni weld y newid ynof gan mai anaml bellach y byddwn yn gwenu neu’n chwerthin. Aethant â fi at y meddyg ac yno, ar ôl profion lawer, cafodd y meddygon fod y felan arnaf a phryder, a dechreuais gymryd moddion.

Bu fy nheulu beth amser yn ymaddasu - erioed wedi profi rhywun agos atyn nhw ag afiechydon meddwl. Gwnâi fy nheulu bopeth allen nhw i helpu: mynd i siopa gyda mi i brynu sebonau oglau da i’m symbylu i gymryd cawod. Fe dreulien nhw oriau’n chwarae gemau bwrdd gyda mi am fod hynny’n codi ambell i wên arnaf. Fe wnaethon nhw bopeth allen nhw rhag i mi deimlo’n fferllyd – f’atgoffa o fy awch bore oes: llenyddiaeth a lluniadu. 

Roedd yn anodd i mi ganolbwyntio’n ddigon hir i ddarllen neu sgrifennu ond o bryd i’w gilydd gallwn luniadu. Roedd lluniadu’n gymorth i mi gyfathrebu pan oeddwn heb y geiriau. Unwaith, tynnais lun anghenfil i ddangos i fy chwaer pam roeddwn mewn trafferthion ac wedyn roeddwn gen i ymdeimlad o heddwch, fy mod yn gallu cywasgu’n llun bopeth roeddwn yn brwydro yn ei erbyn.Roedd lluniadu hefyd yn rhoi gobaith i mi – byddwn yn tynnu lluniau dillad roedd arnaf eisiau’u gwnïo, ac yn sgìl hynny dysgais bwythau brodwaith.

Sylweddolodd fy nheulu fod celf yn fy helpu i ddod yn f’ôl atyn nhw. Dechreusant chwilio am gyrsiau celf lleol a f’annog i wneud cais.Doedd gen i ddim cymwysterau artistig i’w cyflwyno ac felly, ar gyfer y cyfweliad, creais bortffolio o ddarnau bychain o gelf roeddwn wedi’u creu ers tro byd. Roedden ni i gyd wrth ein boddau pan gefais fy nerbyn ar Lefel 3 Celf a Dylunio.

Ers dechrau’r cwrs ym mis Medi 2018, dysgais lawer amdanaf fi fy hun a hyd yn oed mynd yn fy mlaen i’r ail dymor gyda chymorth fy nheulu, ffrindiau, athrawon a chynghorwyr. Bu’r cymorth meddygol a gefais yn gyfrwng achub fy mywyd a hebddo fyddwn i ddim lle’r ydw i heddiw. Ond bu celf yn gymorth i mi mewn ffordd na allai pobl broffesiynol feddygol fod; rhoes celf le i mi deimlo eto.