GŵylGrai ydi’r ŵyl gelfyddydau ieuenctid newydd i Gymru, sy’n hwyl, yn arloesol ac yn ddigon o ryfeddod. Fe’i cynllunnir ac fe’i rhaglennir gan bobol ifanc i bobol ifanc. Mae GŵylGrai yn rhoi stondin i’r gorau o blith celfyddydau ieuenctid heddiw. Rhown fwy o werth ar y gwreiddiol yn hytrach na’r copi, y cranclyd yn hytrach na’r cyffredin, y beiddgar yn hytrach na’r diflas.