25 - 28 Ebrill 2019 | Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd

RawFfest - Youth Arts Festival

Rhaglen

Rhaglen

Mae dros 100 o berfformiadau, digwyddiadau a gweithgareddau ar raglen GŵylGrai 2017

Mae GŵylGrai yn unigryw oherwydd mae wedi’i raglennu gan bobl ifanc. Mae pob un o’r perfformiadau ac arddangosfeydd gan bobl ifanc (14 – 25 oed). Mae’r dosbarthiadau meistr a’r gweithdai yn cael eu harwain gan arbenigwyr, artistiaid a phobl ifanc eu hunain. Mae hyn i gyd yn cael ei gynnwys yn eich tocyn.

Sgroliwch i lawr i weld y rhaglen llawn. Os mae disgrifiad gweithdy neu ddigwyddiad yn rhoi nifer (er enghraifft y Disgo Distaw), mae angen bwcio o flaen llaw er mwyn sicrhau eich lle. Mae rhaid prynu tocyn i'r ŵyl i wneud hyn. Wedyn, cewch gyfrinair i’r system bwcio gweithdai. Ewch i tocynnau am fwy o wybodaeth.

Iau

Cwmbran Signing Choir

Lleoliad: Glanfa Stage
Dyddiad: Iau 17 Awst, 2017
Amser: 17.30

Categori: Cerddoriaeth

We are delighted to kick off our festival with the Cwmbran Signing Choir, made up of Deaf and hearing impaired young people.

Iau

Pulse: Stondin Dawns Ieuenctid

Lleoliad: Stiwdio Weston
Dyddiad: Iau 17 Awst, 2017
Amser: 18:00 - 19:00pm

Dan arweiniad: N/A
Llefydd: N/A
Categori: Dawns, Wellbeing

Rydym wrth ein boddau o roi cychwyn tan gamp i’n gw^yl â gala’n heigio gan egni rhai o’r cwmnïau dawns ieuenctid gorau yng Nghymru heddiw.Mae’r gymanfa’n cynnwys darn dawns cyfoes diweddaraf Cwmni Dawns Ieuenctid Afon sy’n heigio dan egni; y grw^p dawns anabl Motion Dance yn herio canfyddiadau â darn wedi’i seilio ar yr Hunger Games; Fusions Elite yn cyflwyno eu ‘Keyboard Warriors’ lem ar thema seiberfwlio; a Shelley Norton Stage School yn codi’r hwyl ag eitemau theatr gerdd.

Iau

Exhibition: Hwb Bwb

Lleoliad: Glanfa
Dyddiad: Iau 17 Awst, 2017
Amser: All day

Dan arweiniad: Menai Rowalnds a Hwb Bwb
Categori: Celfyddyd Weledol, Wellbeing

Partner:
CWVYS

Gosodiad uchelgeisiol sy’n archwilio lles ac iechyd meddwl. Wedi'i chreu gan artistiaid ifanc 14-25 oed o Ogledd Cymru.

Iau

Exhibition: Young, Migrant and Welsh

Lleoliad: TBC
Dyddiad: Iau 17 Awst, 2017
Amser: All day

Dan arweiniad: Ethnic Minorities & Youth Support Team Wales
Categori: Celfyddyd Weledol, Wellbeing

Arddangosfa o fideos, ffotograffiaeth a phaentio sy’n archwilio hunaniaeth, treftadaeth a beth mae’n golygu i fod yn ifanc, ymfudwr a Chymraeg. Mi fydd na sialens ffotomarathon i chi ychwanegu eich hunaniaeth chi i’r prosiect, wrth greu a chymryd llun.

Iau

Arddangosfa: CODI

Lleoliad: Glanfa First Floor Balcony
Dyddiad: Iau 17 Awst, 2017
Amser: Trwy'r ŵyl / All weekend

Dan arweiniad: Tom Arnold, Morgan Dowdall, Miriam Hughes, Marek Liska, Gwenllian Llwyd, Luke Mills, Kristina Nabazaite, Karl Nurse, Maria Paraschidou, Abi Preece, Luke Roberts, Sion Teifi
Llefydd: -
Categori: Ffotograffiaeth, Ffilm, Celfyddyd Weledol

Mae GŵylGrai yn falch iawn o gyhoeddi CODI, arddangosfa o waith celf gan 12 o artistiaid gyfra cynnar, wedi eu lleoli yng Nghymru, yn cynnwys paentio, print, cerflunwaith, delwedd symudol a sain.

Iau

Radio Platfform

Lleoliad: Radio Platfform Studio
Dyddiad: Iau 17 Awst, 2017
Amser: 20.00 - 22.00

Dan arweiniad: Radio Platfform
Categori: Ffilm

Platfform ar fynd yn fyw drwy gydol yr w^yl. Bydd yna restrau chwarae yn cynnwys ein perfformwyr, cyfweliadau â gwesteion arbennig, ac adroddiadau’r newyddion diweddaraf. Piciwch i mewn pryd mynnwch chi i weld sut mae gorsaf radio’n rhedeg.

Iau

Disgo Distaw

Lleoliad: Radio Platfform
Dyddiad: Iau 17 Awst, 2017
Amser: 20.30 - 22.00

Llefydd: 40
Categori: Dawns, Cerddoriaeth

Eich penset eich hun, dewis o sianeli. Felly gallai hanner yr ystafell fod yn rocio a’r hanner arall yn rapio. Ffordd egnïol o ymgolli mewn cerddoriaeth.

Iau

Circus Mundi

Lleoliad: Stiwdio Weston
Dyddiad: Iau 17 Awst, 2017
Amser: 20:30 - 21:30

Dan arweiniad: NoFit State Circus
Llefydd: N/A
Categori: Syrcas

Partner:
Supported by Capital Apartments 

I ddathlu deucanmlwyddiant a hanner y Syrcas, mae NoFit State yn dwyn ynghyd eu dawn syrcas ifanc mwyaf addawol i berfformio Circus Mundi. Mae’r sioe, a ysbrydolwyd gan Gewch chi ddisgwyl cael eich dallu gan gelf awyr, acrobateg a jyglo a llond gwlad at hynny yn y perfformiad Syrcas Ieuenctid mwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn! Comisiynwyd yn wreiddiol gan The Courtyard Hereford

Iau

Entrée

Lleoliad: Weston Studio
Dyddiad: Iau 17 Awst, 2017
Amser: 7.15pm - 7.45pm

Dan arweiniad: Jose Pedro Fortuna
Categori: Syrcas, Theatre

Dyma Feistr y Ddefod: yn dal, yn dywyll o bryd ac yn olygus ond be sy’n digwydd pan fo gan gelfi’r Meistr eu meddyliau a’u cyrff eu hunain? I’r gad!Cyrchddull modern ydi Entrée sy’n mynd i’r afael â darnau clown yr ugeinfed ganrif ac sy’n defnyddio iaith amlddisgyblaethol er mwyn cyfleu bregusrwydd cymeriad hynod drwy gydnabod mai methu ydi’r elfen fwyaf arwyddocaol a chyffredin ym mywyd dyn.Drwy ddefnyddio clownio, jyglo ac effeithiau hud syfrdanol cyfoes, mae Jose Pedro yn cyfareddu’r gynulleidfa ar naratif sy’n annisgwyl ac eto’n ddigri. Mae trychineb clownio ar y gorwel does dim dau!

Iau

Meic Agored

Lleoliad: Glanfa
Dyddiad: Iau 17 Awst, 2017
Amser: 21:30 - 22:30

Dan arweiniad: Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifainc
Categori: Cerddoriaeth

Partner:
Gyda chefnogaeth gan Anthem

Pobl ifanc sy’n ymddiddori mewn gyrfa ym myd cerdd sy’n curadu’r hicyn yma. Gewch chi ddisgwyl cymysgfa eclectig o acwstig, canwyr-gyfansoddwyr, indi, y Gymraeg, retro, jazz a rhagor.

Gwener

GWNEUD EICH DEMO RADIO EICH HUN

Lleoliad: Radio Platfform
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 11am - 12.30pm & 4pm - 5.30pm

Dan arweiniad: Radio Platfform
Llefydd: 6
Categori: Cerddoriaeth

Partner:
WMC

Am weithio ym myd radio? Bydd y gweithdai yma’n eich cyflwyno chi i’r sgiliau sydd eu hangen. Byddwch yn ymchwilio i rywbeth rydych yn ymddiddori ynddo, yn cael help i sgrifennu amdano, yn cynnwys sgrifennu cwestiynau cyfweliad. Wedyn fe ddysgwch chi sut i holi pobol a chael hyd i gerddoriaeth. Yn olaf cewch help i roi hyn at ei gilydd fel pecyn gan ddefnyddio desg gymysgu a meddalwedd Myriad. Ar y diwedd yn ôl pob tebyg bydd demo byr eich sioe radio eich hun gennych. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol.

Gwener

Well Iawn Pop Up

Lleoliad: Glanfa
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 22:30

Dan arweiniad: Mess up the Mess
Categori: Celfyddyd Weledol, Wellbeing

Shwd wyt ti? Wedi’i ysbrydoli gan siapiau a ffurfiau coed, mae’r gosodiad llachar yma yn eich gwahoddi i ymuno mewn gweithgareddau lles creadigol. Chwaraewch gêm o amynedd emoji i adlewyrchu ar eich hwyliau, neu trïwch wên newydd gyda’n Ymgynghorydd Gwên.

Gwener

Exhibition: Hwb Bwb

Lleoliad: Glanfa
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 22:30

Dan arweiniad: Menia Rowlands a Hwb Bwb
Categori: Celfyddyd Weledol, Wellbeing

Partner:
CWYVS

Gosodiad uchelgeisiol sy’n archwilio lles ac iechyd meddwl. Wedi'i chreu gan artistiaid ifanc 14-25 oed o Ogledd Cymru.

Gwener

Exhibition: Young, Migrant and Welsh

Lleoliad: TBC
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: All day

Dan arweiniad: Ethnic Minorities & Youth Support Team Wales
Categori: Celfyddyd Weledol, Wellbeing

Arddangosfa o fideos, ffotograffiaeth a phaentio sy’n archwilio hunaniaeth, treftadaeth a beth mae’n golygu i fod yn ifanc, ymfudwr a Chymraeg. Mi fydd na sialens ffotomarathon i chi ychwanegu eich hunaniaeth chi i’r prosiect, wrth greu a chymryd llun.

Gwener

Opera. Ond ar newydd wedd

Lleoliad: Ystafell Japan
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 11:00 – 12:30; 13:30 – 15:00; 16:00 – 17:30

Dan arweiniad: Operasonic
Llefydd: 10
Categori: Cerddoriaeth

Partner:
Cronfa Cerddoriaeth Ieuenctid Tŷ Cerdd

Yn ei ôl o fawr alw amdano! Dechreuwch ailddyfeisio opera drwy weithio gyda chyfansoddwr a dau ganwr opera. Bydd y gweithdy yma’n canolbwyntio ar beth rydych am ei glywed a sut rydych am ei wneud.  Ddim o’ch pethau chi, meddwch? Operasonig oedd hit annisgwyl ein dwy w^yl gyntaf. Dewch ‘laen. Gamp i chi roi cynnig arni

Gwener

UGC +/-

Lleoliad: Preseli Room
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 12:00

Dan arweiniad: Amy Lewis and members of Narberth Youth Theatre
Llefydd: 12
Categori: Theatre, Wellbeing

Sesiwn fyrfyfyrio ymdrwythol dan arweiniad Amy Lewis ac aelodau o Theatr Ieuenctid Arberth. A yw technoleg yn cymryd drosodd a phwy sy’n rheoli go iawn? Datod effaith ‘cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr’ arnon ni.

Gwener

Radio Platfform

Lleoliad: Radio Platfform
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 22:00

Dan arweiniad: Radio Platfform
Categori: Ffilm

Platfform ar fynd yn fyw drwy gydol yr w^yl. Bydd yna restrau chwarae yn cynnwys ein perfformwyr, cyfweliadau â gwesteion arbennig, ac adroddiadau’r newyddion diweddaraf. Piciwch i mewn pryd mynnwch chi i weld sut mae gorsaf radio’n rhedeg.

Gwener

Murlun Graffiti Bychain

Lleoliad: Llodys Enterprise Suite
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 12:30, 13:30 - 15:00

Dan arweiniad: Amelia Unity - Millimagic
Llefydd: 10
Categori: Celfyddyd Weledol

Mae graffiti yn ffurf o gelf sy’n datblygu’n gyflym ac yn defnyddio llawer o steiliau a ffurfiau gwahanol. Yn y gweithdy yma fyddech yn rhoi cynnig ar dechnegau graffiti, dysgu fwy am ei hanes a therminoleg, a chreu murlun graffiti bychain eich hunain.

Gwener

Exhibition: CODI

Lleoliad: Glanfa First Floor Balcony
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: Trwy'r ŵyl / All weekend

Dan arweiniad: Tom Arnold, Morgan Dowdall, Miriam Hughes, Marek Liska, Gwenllian Llwyd, Luke Mills, Kristina Nabazaite, Karl Nurse, Maria Paraschidou, Abi Preece, Luke Roberts, Sion Teifi
Llefydd: -
Categori: Ffotograffiaeth, Ffilm, Celfyddyd Weledol

RawFfest is pleased to present CODI, an exhibition of work by 10 early career, Wales based artists, showcasing painting, photography, print, sculpture, moving image and sound. CODI: North Wales: /ˈkɔdɪ/ // South Wales: /ˈkoːdi/, /ˈkɔdi/ // To rise, to grow, to raise, to build.

Gwener

Yr Ardd Glai

Lleoliad: Glanfa
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: Drop In 11:00 - 12:30

Dan arweiniad: Marek Liska
Llefydd: Drop In
Categori: Celfyddyd Weledol, Wellbeing

Gwasgwch, slapiwch, glynwch, chwistrellwch, pinsiwch, torrwch, plannwch. Archwiliwch fywiogrwydd gwych clai a helpwch i'w dyfu fewn i ffurfiau annisgwyl!

Gwener

Creu Ffilm - Mewn un dydd!

Lleoliad: Ystafell David Morgan
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 12:30 and 13:30 - 15:00

Dan arweiniad: It’s My Shout
Llefydd: 30
Categori: Ffilm

Mae It’s My Shout yn cynnal dau weithdy lle gallwch chi dysgu sgiliau sylfaenol am sut I creu ffilmiau byr - mewn dim ond 3 awr! Gallwch chi cael hwyl gyda'r sgrîn werdd, dysgu sgiliau ymarferol gyda’r camera, defnyddio offer recordio sain, defnyddio wahanol goleuadau a gweithio gyda armyw o wisgoedd, cholur a gwallt. Erbyn diwedd y dwy sesiwn, byddwch chi wedi cyfrannu at eich ffilm fach eich hun. Mae It’s My Shout yn arbenigo mewn darganfod a ddatblygu talent newydd ar gyfer y diwydiant ffilm. Mae eu ffilmiau wedi cael eu dangos ledled y byd ac mae ganddynt 4 Gwobr BAFTA Cymru. Bob blwyddyn maent yn cynhyrchu ffilmiau byr ar gyfer eu partneriaid BBC ac S4C. Mae'r gweithdy hwn wedi'i anelu at bobl sydd yn edrych I gael mwy o brofiad am sut i gwneud ffilmiau byr. Mae angen i chi fynychu'r ddwy sesiwn i gael y brofiad yn llawn. Oherwydd natur y gweithdy, mae dim ond lle ar gyfer 20 o bobl.Oedrannau : 14 - 18

Gwener

Dod yn Ddylanwadwr: crefft adolygu

Lleoliad: Sony Room
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 11am – 12.30pm

Dan arweiniad: Gary Raymond Wales Arts Review
Llefydd: N/A
Categori: Llenyddiaeth a'r Gair Llafar

Barn pwy rydych yn ei thrystio a pham? Beth yw adolygu? Beth petaech CHI yn dod yr adolygwr mae pobl yn gwrando arno?Dosbarth meistr yw hwn ar sut i sgrifennu a sôn am ffilm, llyfrau, theatr a lluniau. Fe ddysgwch Ddeg Rheol Adolygu. “Nid dim ond pobl ifanc yn ymhél â chelfyddyd sydd dan sylw. Beth yw ein BARN ni amdani piau hi. Ac wedyn sut byddwn yn RHANNU ein barn.”Mae Gary Raymond yn gyd-sylfaenydd Wales Arts Review, pennaf ganolgylch Cymru o ran meddwl beirniadol ynghylch y celfyddydau a diwylliant. Mae hefyd yn gyflwynydd The Review Show ar BBC Radio Wales a chafodd gyhoeddi dwy nofel.

Gwener

Inclusive Dance Workshop

Lleoliad: Preseli Room
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 12pm - 12:30pm

Dan arweiniad: Samantha Griffiths / Motion Control Dance
Llefydd: 15-20
Categori: Dawns

Dyma Motion Control yn dod â’r gweithdy blasu yma atoch chi, yn ddawns greadigol sy’n eich cyflwyno chi i hwyl eu cyrchddull sy’n cael gan y cadarn o gorff a’r llai cadarn ddawnsio gyda’i gilydd. Mae pawb yn gallu dawnsio a pherfformio!Mae Cwmni Dawns Local Motion ar fynd ers 2008. Maen nhw’n cyfarfod unwaith yr wythnos yn Stiwdio Motion Control yn Yr Hwb yn Y Barri. Maen nhw wedi perfformio mewn amryw o oedfannau lleol ond hefyd yn y South Bank yn Llundain. Aethant drwodd i rowndiau terfynol Ffactor Cymru ac yn fwyaf diweddar cystadlodd rhai o’r dawnswyr ym mhenwythnos dawns Encore yn Brean Sands, gyda’u gwneud y grŵp anghenion arbennig cyntaf erioed i gystadlu yn y digwyddiad yma.

Gwener

FunD’Mental’

Lleoliad: Stiwdio Weston
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 12:30 - 13:30

Dan arweiniad: Spectacle Youth Theatre
Categori: Theatre, Wellbeing

Mae gan bawb stori; gorffennol, y presennol a dyfodol. Ac mae modd newid pob un ohonyn nhw. Ond tybed?Mae grŵp o bobl ifanc eithriadol yn rhannu eu straeon – straeon dod i oed mewn oes sy’n gofyn cymaint ganddyn nhw. Chwerthwch lond bol, mae hi’n iawn i chi fod yn hurt! Dim ond gair yw e! (Ond tybed?) Dewch aton ni. Ar ôl y perfformiad deugain munud bydd trafodaeth â’r cast.

Gwener

Getting You Out There

Lleoliad: Y Llyfrgell (Ystafell Sony)
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 13:30 - 15:00

Dan arweiniad: Jannat Ahmed
Llefydd: 12
Categori: Llenyddiaeth a'r Gair Llafar

Partner:
Supported by Capital Apartments

Ydi’r cyfryngau cymdeithasol wedi torri’ch calon? Ydych chi’n amau eich galluoedd? Peidiwch, da chi. Mae Jannat yma i ddangos i chi sut i fod y wedd orau arnoch chi’ch hun y gallwch chi fod.Cyfryngau cymdeithasol, blogio, podlediadau, print, gwefannau. Gweithiodd Jannat Ahmed ei ffordd drwy’r rhain i gyd ar drywydd ymorol am glywed lleisiau pobl. Am awr a hanner bydd yn eich helpu chi i osgoi’r camau gwag ac i ddysgu’r cyfrinachau.Canllaw hunan-gyhoeddi i wireddu’ch breuddwydion.

Gwener

Hip hop and Locking

Lleoliad: Preseli Room
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 13.30 - 15.00

Dan arweiniad: Darnell Hawkings of Jukebox Collective
Llefydd: 15
Categori: Dawns

Partner:
Jukebox Dance Collective

Dan arweiniad Darnell Hawkings, bydd y gweithdy hwyliog yma’n mynd â chi drwy lyfrgell hip hop a’r tueddiadau dawns sydd ohoni. Gewch chi ddisgwyl gwefr. Menter gymdeithasol a chanolgylch creadigol i ddawns yng Nghymru yw Jukebox Collective. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu cyfleoedd yn y diwydiannau creadigol a chynhyrchu gwaith perfformio ysbrydoledig drwy ein dwy gainc: cyfranogol a chreadigol.

Gwener

RAWESOME Diffusion Tour

Lleoliad: Glanfa / WMC / Senedd
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 13:30 - 15:00

Dan arweiniad: Diffusion
Llefydd: 15
Categori: Ffotograffiaeth, Celfyddyd Weledol

Rawffest and Diffusion are collaborating to host a tour of Wales Millennium Centre and the Senedd Diffusion exhibition spaces. Diffusion is Cardiff’s international festival of photography. Taking over 8 sites in South Wales and exhibiting and collaborating with over 30 artists. Book onto this free live guided tour and explore two of the sites and encounter the exhibitions. Live guides will start the tour at 1.30 in the Glanfa area and finish at 3pm. Please don’t be late and bring appropriate clothing to walk between the site. Please note security procedures are set up to enter the Senedd. Tours will be available in Welsh and English. Please indicate your preferred language when booking. See you there!

Gwener

Make your own Aluminum Bowl

Lleoliad: Glanfa
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 13:30 - 15:00

Dan arweiniad: Dan Jones
Llefydd: Drop In
Categori: Celfyddyd Weledol

Try your hand at metal work and learn the basics of working with aluminium by creating your very own bowl with young blacksmith and artist Dan Jones.

Gwener

Rownd y Byd mewn Straeon

Lleoliad: Radio Platfform
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 2pm – 3pm

Dan arweiniad: Jake Evans
Llefydd: 30
Categori: Llenyddiaeth a'r Gair Llafar, Wellbeing

Storïa traddodiadol yw’r fwyaf hynafol o’r holl ffurfiau ar gelfyddyd ac eto rydym yn ei iselbrisio’n ddybryd. Rydym i gyd yn adrodd straeon bob dydd, a phalu celwydd mae unrhyw un sy’n dweud nad ydi wrth ei fodd yn gwrando ar stori dda!Dewch at y storïwr proffesiynol Jake Evans i’w glywed yn rhannu mythau pryfoclyd, chwedlau a straeon gwir o bedwar ban byd a rhoi tragywydd heol i’ch dychymyg...

Gwener

Unplugged

Lleoliad: Stiwdio Weston
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 15:00 - 15:30

Dan arweiniad: Narberth Youth Theatre
Llefydd: N/A
Categori: Theatre, Wellbeing

Ping... ding... grwnan ping ding… sori ddwedaist ti rywbeth... o ie, roeddwn i ar y ffôn. Chlywais i monot ti.Does 'na neb yn stopio i siarad erbyn hyn. Dim ond i synau y bydda i’n ymateb, nid geiriau.Tynnu’r plwg... be petaech chi’n ei ddiffodd? Drama newydd yn chwilio bywyd heb dechnoleg a phwysau’r cyfryngau cymdeithasol. Dewch aton ni ar daith a ninnau’n rhoi cynnig ar gael gwybod...

Gwener

Celf Sonig

Lleoliad: TBC
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 16:00 - 17:30

Dan arweiniad: Heledd C.Evans
Llefydd: 8
Categori: Cerddoriaeth, Celfyddyd Weledol, Wellbeing

Pa mor aml ydych chdi’n gwrando ar y gofod o’ch cwmpas? Mae mor hawdd rhoi clustffonau i mewn ac anwybyddu’r byd, ond weithiau gallwch ddysgu lot am ofod sy’n ymddangos yn ddistaw wrth wrando’n agos. Yn y gweithdy hwn fyddem yn ymarfer gwrando a darlunio i ganolbwyntio ar beth allem glywed pan rydym yn gwrando’n agos, wedyn fydd cyfle ymateb i’r seiniau a chwarae’r adeilad fel offeryn wrth ddefnyddio cerflunwaith.

Gwener

Y Gwir Neu Gamp i Ti

Lleoliad: Y Llyfrgell (Sony)
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 16:00 - 17:30

Dan arweiniad: Jake Evans
Llefydd: 10
Categori: Llenyddiaeth a'r Gair Llafar

Straeon asgwrn pen llo, mythau dinesig, gwirioneddau, celwyddau a phosau: dewch i ddysgu celfyddyd goll sut i wau stori a chyfareddu eich cynulleidfa. Weithiau’n ddigri, weithiau’n athrist, mae grym y stori’n gallu aros gyda chi am ddyddiau bwy gilydd.Rhedir y gweithdy yma gan Jake Evans, Storïwr Ifanc y Flwyddyn, 2014.

Gwener

Rhyfelwyr yr Allweddell: Y Gweithdy

Lleoliad: Preseli Room
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 16.00 - 17.30

Dan arweiniad: Hayley Feehan and Fusions Elite
Llefydd: 25
Categori: Dawns

Cwmni dawns ieuenctid sydd â'i gartref yng Nghaerdydd yw Fusions Elite, sydd wedi perfformio drwy hyd a lled gwledydd Prydain, yn fwyaf diweddar yn The Place yn Llundain. Rydym yn frwd dros ddawns ac wrth ein boddau yn chwilio ac yn mynegi’r achosion sy’n effeithio ar bobl ifanc heddiw. Mae’r gweithdy dawns yma’n chwilio’r themâu sy’n rhan o’r stondin sy’n agor yr ŵyl.Mae’r rhan fwyaf o’n cwmni wedi profi seiber-fwlio rywfodd neu’i gilydd. Mae pobl ifanc yn wynebu’r boen meddwl ac emosiynol y mae trolwyr anhysbys yn ei hachosi. Mae’r gweithdy yma’n agor y drws i’r prosesau coreograffig y byddwn yn eu defnyddio pan fyddwn yn creu darn newydd ar sail achosion.

Gwener

Handmade Fashion

Lleoliad: David Morgan Room
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 16.00 - 17.30

Dan arweiniad: Lloyd Gittins of HP90 Customs
Categori: Ffasiwn

Paint Fabric with your personality: Elin will share a live demonstration of her unique process and style with her own tools and special blends. She will share how fabric paint works with leather and poly blends. She will then help you customise a small lifestyle product, using colour ways that are striking and simple in methods that are expressive and unique

Gwener

Fio: dyfodol

Lleoliad: Ystafell Preseli
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 16:30 - 17:30

Dan arweiniad: Fio: Futures
Categori: Theatre

Petai rhywun yn dwyn eich dinasyddiaeth oddi arnoch chi, be wnaech chi? Yn sgìl y ddadl ynghylch dinasyddiaeth Shamima Begum, gofynnwn i’n haelodau ifainc sut beth ydi dod i oed yng Nghymru, sut bydden nhw’n diffinio Caerdydd petai’n ffrind a be mae eu dinasyddiaeth Gymreig yn ei golygu iddyn nhw. Canlyniad hyn yw ymatebion artistig lluosog yn cynnwys cerddoriaeth a chanu, darnau actol wedi’u dyfeisio, a dawns a symud. Crëir y cynhyrchiad yma gan bobl ifanc sy’n gweithio gyda Fio.

Gwener

Cypher

Lleoliad: Glanfa
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 17.30pm - 18.15pm

Dan arweiniad: Avant Cymru
Llefydd: N/A
Categori: Dawns

Hip Hop Cypher a’i chythru hi i symudiadau Dawns torri, cloi, Popio a Hip Hop dan arweiniad Avant Cymru a’u perfformwyr dawns o bob cwr o wledydd Prydain a Chymru.Cipiwch y meic poeri’ch rhigymau, mae croeso i artistiaid Hip Hop i gyd rannu, man creadigol yw Cypher ac mae croeso i greadigolion i gyd #Ymunwch â Heddwch, Undod a Pharch at Bawb.

Gwener

Perfformiad: Opera. Ond ar newydd wedd

Lleoliad: Glanfa
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 18:30 - 19:00

Dan arweiniad: Operasonic
Categori: Cerddoriaeth

Partner:
Cronfa Cerddoriaeth Ieuenctid Tŷ Cerdd

Gewch chi ddisgwyl cael eich syfrdanu gan ganlyniadau gweithdai Operasonig heddiw. Eich cerddoriaeth chi. Eich geiriau chi. Eu lleisiau anhygoel nhw.

Gwener

Queens of Art

Lleoliad: Stiwdio Weston
Dyddiad: Gwener 18 Awst, 2017
Amser: 20:00 - 22:30

Dan arweiniad: Curated by Shay D
Categori: Cerddoriaeth

Am y tro cyntaf erioed yn hanes Hip Hop gwledydd Prydain, daeth cymanfa merched i gyd at ei gilydd ar daith o’r enw Queens of Art, a guradir gan y rapiwr o Brydeiniwr Shay D. Mae’r daith yn cyflwyno cerddoriaeth newydd Shay D, ochr yn ochr â rhaglen raenus, dewis artistiaid benywaidd yn cynnwys DJ Ellie Prohan, Truemendous a merched Caerdydd ei hun, Ladies of Rage. Codwch eich tocyn a dewch i ni wneud hanes gyda’n gilydd

Sadwrn

MUSIC-CAN!

Lleoliad: Japan Room
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 16:00 - 17:00

Dan arweiniad: Forget Me Not productions
Llefydd: 8
Categori: Cerddoriaeth, Ffilm, Celfyddyd Weledol

Jac Richards is an up-and-coming 22 year old musician, songwriter and film maker. He also has cerebral palsy with very limited movement. Jac wrote his debut single using a computer operated by his eye movement and played various virtual instruments. In this workshop you’ll watch the video of his single and find out how he wrote the music and made the film. You will then have a rare opportunity to try out the eyegaze technology yourself. Can you create music by just using your eyes?

Sadwrn

Well Iawn Pop up

Lleoliad: Glanfa
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 22:30

Dan arweiniad: Mess up the Mess
Categori: Celfyddyd Weledol, Wellbeing

Shwd wyt ti? Wedi’i ysbrydoli gan siapiau a ffurfiau coed, mae’r gosodiad llachar yma yn eich gwahoddi i ymuno mewn gweithgareddau lles creadigol. Chwaraewch gêm o amynedd emoji i adlewyrchu ar eich hwyliau, neu trïwch wên newydd gyda’n Ymgynghorydd Gwên.

Sadwrn

Exhibition: Hwb Bwb

Lleoliad: Glanfa
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 22:30

Dan arweiniad: Menai Rowlands a Hwb Bwb
Categori: Celfyddyd Weledol, Wellbeing

Partner:
CWYVS

Gosodiad uchelgeisiol sy’n archwilio lles ac iechyd meddwl. Wedi'i chreu gan artistiaid ifanc 14-25 oed o Ogledd Cymru.

Sadwrn

Exhibition: Young, Migrant and Welsh

Lleoliad: TBC
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: All day

Dan arweiniad: Ethnic Minorities & Youth Support Team Wales
Categori: Celfyddyd Weledol, Wellbeing

Arddangosfa o fideos, ffotograffiaeth a phaentio sy’n archwilio hunaniaeth, treftadaeth a beth mae’n golygu i fod yn ifanc, ymfudwr a Chymraeg. Mi fydd na sialens ffotomarathon i chi ychwanegu eich hunaniaeth chi i’r prosiect, wrth greu a chymryd llun.

Sadwrn

Inc Anghredadwy

Lleoliad: Glanfa
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 12:30

Dan arweiniad: Gweni Llwyd
Llefydd: Drop in session
Categori: Celfyddyd Weledol

Addurnwch grys-t neu fag RawFfest 2019 eich hunain wrth ddysgu sgiliau argraffu sgrin.

Sadwrn

Radio Platfform

Lleoliad: Radio Platfform
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 22:00

Dan arweiniad: Radio Platfform
Categori: Ffilm

Platfform ar fynd yn fyw drwy gydol yr w^yl. Bydd yna restrau chwarae yn cynnwys ein perfformwyr, cyfweliadau â gwesteion arbennig, ac adroddiadau’r newyddion diweddaraf. Piciwch i mewn pryd mynnwch chi i weld sut mae gorsaf radio’n rhedeg.

Sadwrn

Gwneud eich demo radio eich hun

Lleoliad: Stiwdio Radio Platfform
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 11:00 – 12.30

Dan arweiniad: Radio Platfform
Llefydd: 6
Categori: Ffilm

Partner:
WMC

Am weithio ym myd radio? Bydd y gweithdai yma’n eich cyflwyno chi i’r sgiliau sydd eu hangen. Byddwch yn ymchwilio i rywbeth rydych yn ymddiddori ynddo, yn cael help i sgrifennu amdano, yn cynnwys sgrifennu cwestiynau cyfweliad. Wedyn fe ddysgwch chi sut i holi pobol a chael hyd i gerddoriaeth. Yn olaf cewch help i roi hyn at ei gilydd fel pecyn gan ddefnyddio desg gymysgu a meddalwedd Myriad. Ar y diwedd yn ôl pob tebyg bydd demo byr eich sioe radio eich hun gennych. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol.

Sadwrn

Y personol ar goedd

Lleoliad: Y Llyfrgell (Ystafell Sony)
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 12:30

Dan arweiniad: Natasha Borton and Voice Box
Llefydd: 10
Categori: Llenyddiaeth a'r Gair Llafar, Wellbeing

Partner:
Supported by Capital Apartments

Cadw’n fyw yn y cof eich profiadau personol dihafal trwy’u gweddnewid yn farddoniaeth rymus. Mae Natasha’n frwd dros y gynneddf sydd gan farddoniaeth i ymrymuso pobol ifanc a newid ein barn. Wedyn gall y cerddi personol hyn fod ar goedd yn y Slam Barddoniaeth heno. Rhydd Natasha gymorth i chi fagu’r hyder i siarad o flaen tyrfa o bobol. Mae Natasha Borton yn fardd perfformio blaenllaw a rhedodd ddigwyddiadau i NTW Democracy, Mouthy poets a Gŵyl Ymylon Caerdydd.

Sadwrn

Workshop: Nowhere Nunlle

Lleoliad: Rehearsal Room Three
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 11:00 – 12:30; 13:30 – 15:00; 16:00 – 17:30

Dan arweiniad: Mess up the Mess
Llefydd: 10
Categori: Theatre

Partner:
Millennium Stadium Charitable Trust Youth Fund

Rydych wedi cael eich dewis gan yr Eden Project i fynd ar antur gyffrous. Cyfle arbennig i newid eich bywyd a chymryd rhan yn un o lwyddiannau mwyaf dynol ryw! Mae angen poblogi paradwys ar y blaned ‘Nunlle’. Byddwch yn derbyn hyfforddiant arbenigol am y gofod ac yn datblygu sgiliau angenrheidiol megis cyfathrebu a datrys problemau, cyn mynd ar daith ar y Starship Mimosa. Mae yna fyd newydd yn aros amdanoch i adael eich marc...a chreu hanes. Mae Nunlle yn berfformiad ymdrochol ac yn gêm. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai wrth i chi baratoi ar gyfer eich siwrnai i’r gofod. Yna, byddwch yn perfformio yn y cynhyrchiad gyda’r cast o flaen cynulleidfa.

Sadwrn

'Gronau Gwych

Lleoliad: Lloyds Enterprise Suite
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 12:30

Dan arweiniad: LUMIN Journal
Llefydd: 8
Categori: Llenyddiaeth a'r Gair Llafar, Celfyddyd Weledol

Archwiliwch sut gall printio tanddaearol, gwasg bychan a diwylliant ‘grawn fod yn ddull radical o hunanfynegiant. Defnyddiwch eich dwylo i ddweud wrth y byd be ‘dych chi’n feddwl wrth greu ‘grawn eich hunain, a chael golwg ar 'gronau gan LUMIN Journal, a’r llyfrau/'gronau/cyhoeddiadau sy’n cychwyn ffurfio eu casgliad. Mae Lumin Journal yn gyhoeddwr annibynnol a siwrnal gwasg sy’n creu a curadu prosiectau creadigol. Mae eu cyhoeddiadau i gyd yn wleidyddol, annibynnol ac o waith llaw.

Sadwrn

Send in the Clowns

Lleoliad: Japan Room
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 12:00

Dan arweiniad: Jose Pedro Fortuna
Llefydd: 12
Categori: Theatre

Blas o un o’r ffurfiau ar gelfyddyd mwyaf cyffrous a digrifaf yn rhan o hyfforddiant actor. Clownio sydd gennym dan sylw wrth reswm pawb! Drwy fyrfyfyrio corfforol fe ddewch chi o hyd i’ch synnwyr digrifwch a’ch clown oddi mewn. Yn y gweithdy yma byddwn yn chwilio technegau gwneud cymeriadau yn cychwyn ag erfyn pwysica’r clown: y corff!Oed ieuaf: 16

Sadwrn

Arddangosfa: CODI

Lleoliad: Glanfa First Floor Balcony
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: Trwy'r ŵyl / All weekend

Dan arweiniad: Tom Arnold, Morgan Dowdall, Miriam Hughes, Marek Liska, Gwenllian Llwyd, Luke Mills, Kristina Nabazaite, Karl Nurse, Maria Paraschidou, Abi Preece, Luke Roberts, Sion Teifi
Llefydd: -
Categori: Ffotograffiaeth, Ffilm, Celfyddyd Weledol

Mae GŵylGrai yn falch iawn o gyhoeddi CODI, arddangosfa o waith celf gan 10 o artistiaid gyfra cynnar, wedi eu lleoli yng Nghymru, yn cynnwys paentio, print, cerflunwaith, delwedd symudol a sain.

Sadwrn

Ar flaen y gad mewn Theatr Ieuenctid yng Nghymru

Lleoliad: Ystafell Preseli
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 11am - 12.30pm

Dan arweiniad: NYTW and Theatr Clwyd
Llefydd: 25
Categori: Theatre

Partner:
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Dewch heibio i gael blas ymlaen llaw ar beth allwch chi'i wneud dros yr haf gyda TGIC a Theatr Clwyd. Mae'r gweithdy yma'n rhoi cyfle i chi weithio gyda Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd. Mae hi'n adnabyddus drwy hyd a lled Cymru am ei gwaith ysbrydoledig mentrus. Dyfeisio gwaith newydd sy'n chwilio achosion yr oes sydd ohoni yw arbenigedd Gwennan. Weithiau delweddau fydd y man cychwyn; weithiau'r man ei hun. "Mae pawb yn gyfarwyddwr. Mae pawb yn chwarae rôl."

Sadwrn

If the Shoe Fits

Lleoliad: Weston Studio
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 12:30 - 13:00

Dan arweiniad: Found in the Forest
Llefydd: N/A
Categori: Theatre, Wellbeing

A funny and brutally truthful look at what it means to grow up as a rural teen. From buses to safe houses, 'If the Shoe Fits' sees five teenagers using verbatim text and their real-life experiences open up their world, in the hope that it will lead to it becoming a little better.

Sadwrn

Rhys Kinsey

Lleoliad: Glanfa Stage
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 12.30

Dan arweiniad: Young Promoters Network
Categori: Cerddoriaeth

Following their epic performance at the RawFfest launch party, Rhys Kinsey return to keep us entertained.

Sadwrn

Rhoi Cynnig ar y Comics

Lleoliad: Ystafell Sony
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 13:30 - 15:00

Dan arweiniad: Edward Lee 
Llefydd: 12
Categori: Llenyddiaeth a'r Gair Llafar

I’r dim i’r chwilfrydig na ddarllenodd erioed lyfr comics yn eu hoes, a’r selogion pybyr sydd am ddysgu’r grefft, bydd Rhoi Cynnig ar y Comics yn cynnig gweithdy rhagarweiniol ar sut i sgrifennu llyfrau comics. Wedi’i lunio i fod yn gydnaws â’r rheini sy’n newyddianod sgrifennu ochr yn ochr ag awduron mwy profiadol sydd am roi cynnig ar rywbeth newydd, bydd y gweithdy’n cychwyn â mynegai crai’r elfennau sy’n llunio tudalen llyfr comics a fformadu sgript llyfr comics, cyn symud i feysydd sy’n cynnwys chwarae â fformat, techneg ac arddull, trafod y berthynas rhwng yr awdur a’r artist, a sgrifennu eich sampl sgript llyfr comics eich hun.Yn heigio gan bethau gweledol, llyfrau a argymhellir, dadansoddiadau awduron a llyfrau comics i fodio drwyddyn nhw, ewch iddi ar eich pen!Mae Edward Lee yn sgrifennu i Buzz Magazine a The Sprout, yn gyflwynydd yn Radio Platfform, yn fyfyriwr gradd Sgriptio Ffilmiau ac Astudiaethau Ffilm, ac mae pawb sy’n ei nabod yn taeru bod llyfrau comics yn chwilen yn ei ben.

Sadwrn

Ymladd ffilm a styntiau

Lleoliad: Preseli
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 13.30 - 14.25 (previously advertised as 3 short separate workshops; now one long workshop)

Dan arweiniad: Flashing Blades Stunt and Combat Team
Llefydd: 10
Categori: Ffilm

Yn ystod y gweithdy yma byddwch yn gwylio pobol yn cael eu saethu, yn cael curfa, yn cael eu trywanu – heb gael eu brifo. Wedyn fe ddysgwch chi hanfodion ymladd heb arfau a gweithio’n ddiogel gydag arfau i ffilmiau a’r theatr.Mae Rick Manning yn drefnwr styntiau ac ymladd yn y diwydiant ffilmiau ers ugain mlynedd. Ymhlith ei gredydau mae Rob Roy, Gladiator a The Machine.

Sadwrn

Roll for Remission

Lleoliad: Japan Room
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 13:30 - 14:30

Dan arweiniad: Cwmni Ennyn Awaken Productions
Categori: Theatre, Wellbeing

Mae’r darn yma sydd wedi’i ddyfeisio yn dilyn pedwar cymeriad ar eu taith drwy driniaeth canser. Mae’n stori gwroldeb a chyfeillgarwch mewn dau fyd, lle mae brwydro yn erbyn dreigiau’n haws na brwydro yn erbyn canser. Mae’r gynulleidfa’n rholio deis enfawr i benderfynu pa lwybrau mae’r cymeriadau’n eu dilyn – mae pob perfformiad yn wahanol!  Darn llawn chwerthin, dagrau ac uwchlaw popeth - gobaith.

Sadwrn

Printio Perffaith

Lleoliad: Lloyds Enterprise Suite
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 13:30 - 15:00

Dan arweiniad: Adam Musitano
Llefydd: 8
Categori: Celfyddyd Weledol

Wedi ysbrydoli gan Raubdruckerin, symudiad Celf Stryd Almaeneg lle maent yn creu gwaith print wrth ddefnyddio cloriau tyllau archwilio, fyddem yn arbrofi gyda gweadau ac arwynebeddau i adeiladu a glud-lunio darn o waith print. Fyddem yn edrych ar sut gall arwynebedd cael ei ddefnyddio fel offeryn creu marc, wrth ddefnyddio llysiau, gwastraff plastig, arwynebeddau gyda gweadau trwm ac eich dychymig i greu printiau unigryw eich hunain.

Sadwrn

RAWSOME + Diffusion Tour

Lleoliad: Glanfa / WMC / Senedd
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 13:30 - 15:00

Dan arweiniad: Diffusion
Llefydd: 15
Categori: Ffotograffiaeth, Celfyddyd Weledol

Rawffest and Diffusion are collaborating to host a tour of Wales Millennium Centre and the Senedd Diffusion exhibition spaces. Diffusion is Cardiff’s international festival of photography. Taking over 8 sites in South Wales and exhibiting and collaborating with over 30 artists. Book onto this free live guided tour and explore two of the sites and encounter the exhibitions. Live guides will start the tour at 1.30 in the Glanfa area and finish at 3pm. Please don’t be late and bring appropriate clothing to walk between the site. Please note security procedures are set up to enter the Senedd. Tours will be available in Welsh and English. Please indicate your preferred language when booking. See you there!

Sadwrn

The Ceasefire Babies

Lleoliad: Stiwdio Weston
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 15:00 - 16:00

Dan arweiniad: Aberystwyth Arts Centre Youth Theatre
Llefydd: N/A
Categori: Theatre, Wellbeing

Description (a couple of sentences including specifics such as age-group) Wedi’i seilio ar yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon, mae’r ddrama ddiarbed yma’n chwilio sut y gellir trosglwyddo trawmâu i’r genhedlaeth nesaf. Mae Mikey newydd ddod allan o ganolfan gadw ieuenctid a bellach nid yw’n cytuno â barn ei chwaer Jamie sydd am ddial cam y dyn roedd ei thad gynt.

Sadwrn

Slam Barddoniaeth

Lleoliad: Glanfa Stage
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 15:00 – 15.45

Dan arweiniad: Voice Box
Llefydd: N/A
Categori: Llenyddiaeth a'r Gair Llafar

Mae Slamiau Barddoniaeth yn chwyldro ym myd barddoniaeth berfformio. Natasha Borton o Ceg Wynt sy’n llywyddu a dyma’ch cyfle chi i fynd i’r gad. Caiff hyd at ddeg o feirdd ymgofrestru i ymryson, yn gornesta â geiriau nes i un ennill y dydd.

Sadwrn

Illustration 101

Lleoliad: Lloyds Enterprise Suite
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 16:00 - 17:30

Dan arweiniad: Osian Grifford
Llefydd: 10
Categori: Llenyddiaeth a'r Gair Llafar, Celfyddyd Weledol

Bydd y gweithdy darlunio yma'n un ymarferol a chwareus fydd yn archwilio'r canlyniadau unigryw sy’n bosib wrth chwarae gyda thestun a delwedd i gyfathrebu naratif. Mae comig's a nofelau graffig yn cael ei weld fel ffordd dda o gael pobl ifanc i mewn i lenyddiaeth – efallai bod hyn yn awgrymu bod comig’s yn fformat ysgafnach o nofel, yn lle bod yn ffurf o gelf ei hun gall cyfathrebu mewn ffyrdd na gall llyfrau a delweddau ar ben ei hunain. Arbrofwch a darluniwch gyda darlunydd proffesiynol Osian Grifford.

Sadwrn

Industry Q&A: Film, TV and media

Lleoliad: Preseli Room
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 16.00 - 17.00

Categori: Ffilm

Professional discussion on how to get into the radio, film or television industry. Do you want to be an actor? Videographer? Radio presenter? Runner? Assistant Director? Stunt arranger? Whatever it may be, we're here to help you follow your career path.

Sadwrn

Gwenno Fôn

Lleoliad: Glanfa Stage
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 16.00 - 16.30

Dan arweiniad: Galeri Caernarfon
Categori: Cerddoriaeth

Partner:
Galeri Caernarfon

We are delighted to present Gwennon Fôn, an exciting young folk singer from North West Wales.

Sadwrn

Cymdeithas Beirdd GŵylGrai

Lleoliad: Radio Platfform
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 16:30 - 17:30

Dan arweiniad: Alice Swatridge, Chloe Wilson
Categori: Llenyddiaeth a'r Gair Llafar

Partner:
Cefnogir gan Capital Apartments

Dewch i glywed gwaith rhai o feirdd ifainc mwyaf bywiog a beiddgar Cymru.Profedigaeth, pryder, anorecsia, cymhathu. Dydyn ni ddim ar ein pennau’n hunain. Mae gan Alice a Chloe y gwroldeb i rannu eu profiadau ar du min bywyd, yn ogystal â dyddiau da, drwy farddoniaeth angerddol a rhyddiaith wefreiddiol.

Sadwrn

Aerobic + Angri Kidd

Lleoliad: Glanfa Stage
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 17.30 - 18.30

Dan arweiniad: Galeri Caernarfon and Young Promoters Network.
Categori: Cerddoriaeth

Partner:
Anthem

Aerobic, the talented rock band from North Wales blast on to the stage. Followed by Angri Kidd, an alternative rock band, formed in Maerdy, Rhondda.

Sadwrn

Performance: Nowhere Nunlle

Lleoliad: Rehearsal Room Three
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 18:00 - 19:00

Dan arweiniad: Mess up the Mess
Categori: Theatre

Partner:
Millennium Stadium Charitable Trust Youth Fund

Rydych wedi cael eich dewis gan yr Eden Project i fynd ar antur gyffrous. Cyfle arbennig i newid eich bywyd a chymryd rhan yn un o lwyddiannau mwyaf dynol ryw! Mae angen poblogi paradwys ar y blaned ‘Nunlle’. Ymunwch gyda ni ar y Starship Mimosa wrth i ni fynd ar daith i ddyfnderoedd y gofod. Mae Nunlle yn archwilio i themau amrywiol gan cynnwys cymuned, yr amgylchedd, y gwir a chelwydd, ac yn cynnwys cerddoriaeth, comedi, theatr gorfforol, gemau a digon o gyfle i gael hwyl.

Sadwrn

Behind Closed Doors

Lleoliad: TBC
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 19:00 - 20:00

Dan arweiniad: RCT Young & Young Adult Carers
Categori: Ffilm, Celfyddyd Weledol

Rhan o Ŵyl Ffilmiau GŵylGrai. Animeiddiad byr sy’n dangos diwrnod mewn bywyd gofalwyr ifanc. Mae’r teitl yn dod o’r gan wreiddiol sy’n cyfeilio’r animeiddiad chafodd ei ysgrifennu gan y gofalwyr ifanc a’i thiwtoriaid cerddorol.

Sadwrn

Gwobrau Bendigeidfran (A Fo Ben Bid Bont)

Lleoliad: Neuadd yr Urdd
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 19:00 - 20:00

Dan arweiniad: The RawFfest Film Council
Llefydd: N/A
Categori: Ffilm

Ers talwm byd (wel, am saith o’r gloch), mewn pictiwrs ymhell bell i ffwrdd (rownd y gornel a dweud y gwir) mae criw o wneuthurwyr ffilm gwrthryfelgar yn ymrafael yn erbyn ymerodraeth ysgeler benthyciadau myfyrwyr a swyddi mewn tafarnau coffi i wneud ffilmiau fydd yn dwyn rhyddid yn ôl i’r Llwybr Llaethog.

Sadwrn

The Pitchforks, Al Moses a rhagor i’w cadarnhau

Lleoliad: Stwidio Weston
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 20:00 - 22:30

Dan arweiniad: Young Promoters Network
Categori: Cerddoriaeth

Partner:
Gyda chefnogaeth gan Anthem

Hyrwyddwyr Ifainc yn cyflwyno dau fand newydd gyda’r mwyaf cyffrous yng Nghymru. Mae’r Pitchforks ar drothwy pethau mawr drwy gydol 2019 a’r tu hwnt. Roc indi cyflym a ysbrydolwyd gan pync ydi’u pethau nhw, maen nhw’n rhan o BBC Horizons 12 eleni, ac eisoes wedi dod yn un o ffefrynnau’r troellwr Radio 1, Huw Stephens. Yn ddiweddar roedd Clwb Ifor Bach dan ei sang i weld Al Moses. Yn chwarae’n fyw, maen nhw’n codi’r gwyllt a chafodd eu sengl début ‘I Want More’ ei chwarae ar yr awyr ledled gwledydd Prydain. A rhagor o actau i’w cadarnhau. Ystod Oedran: 16+

Sadwrn

Radio Platform Presents

Lleoliad: Radio Platfform
Dyddiad: Sadwrn 19 Awst, 2017
Amser: 20.00 – 22.00

Dan arweiniad: Radio Platfform / Ezra O’Connor
Llefydd: N/A
Categori: Cerddoriaeth

Ymunwch â Radio Platfform ar gyfer gwledd o gerddoriaeth, gan gynnwys perfformiadau gan bedwar o artistiaid mwyaf poblogaidd a newydd Caerdydd: Conrad Stone, LEVi, Klementine and The Honest Poet. Mae’r pedwar yn adlewyrchu’r amrywiaeth a’r creadigrwydd sydd i’w gael yn y brifddinas.

Sul

Well Iawn Pop Up

Lleoliad: Glanfa
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 15:30

Dan arweiniad: Mess up the Mess
Categori: Celfyddyd Weledol, Wellbeing

Shwd wyt ti? Wedi’i ysbrydoli gan siapiau a ffurfiau coed, mae’r gosodiad llachar yma yn eich gwahoddi i ymuno mewn gweithgareddau lles creadigol. Chwaraewch gêm o amynedd emoji i adlewyrchu ar eich hwyliau, neu trïwch wên newydd gyda’n Ymgynghorydd Gwên.

Sul

Exhibition: Hwb Bwb

Lleoliad: Glanfa
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 15:30

Dan arweiniad: Menai Rowlands a Hwb Bwb
Categori: Celfyddyd Weledol, Wellbeing

Partner:
CWYVS

Gosodiad uchelgeisiol sy’n archwilio lles ac iechyd meddwl. Wedi'i chreu gan artistiaid ifanc 14-25 oed o Ogledd Cymru.

Sul

Exhibition: Young Migrant and Welsh

Lleoliad: TBC
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: All day

Dan arweiniad: Ethnic Minorities & Youth Support Team Wales
Categori: Celfyddyd Weledol, Wellbeing

Arddangosfa o fideos, ffotograffiaeth a phaentio sy’n archwilio hunaniaeth, treftadaeth a beth mae’n golygu i fod yn ifanc, ymfudwr a Chymraeg. Mi fydd na sialens ffotomarathon i chi ychwanegu eich hunaniaeth chi i’r prosiect, wrth greu a chymryd llun.

Sul

Syrcas i’r Strydoedd 

Lleoliad: Y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru, y lleoliad i’w gadarnhau
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 11:20 & 12:00 - 12:20

Dan arweiniad: NoFit State Circus
Llefydd: N/A
Categori: Syrcas

Partner:
Supported by Capital Apartments

Ar ôl llwyddiant eu sioe dan do Circus Mundi, mae Syrcas Ieuenctid NoFit State yn llawn cyffro o fynd â’u sgiliau i’r strydoedd. Dan arweiniad John Beedell (Desperate Men), bu Syrcas Ieuenctid NFS yn myfyrio uwch eu pryderon a’u dyheadau, ac yn canolbwyntio ar fagu ymwybyddiaeth o’r gynulleidfa a’u hamgylchfyd. Dyma sioe ar ei phen ei hun. Byddwch yn barod am reid colli cylla!

Sul

Radio Platfform

Lleoliad: Radio Platfform Studio
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 22:00

Dan arweiniad: Radio Platfform
Categori: Ffilm

Platfform ar fynd yn fyw drwy gydol yr w^yl. Bydd yna restrau chwarae yn cynnwys ein perfformwyr, cyfweliadau â gwesteion arbennig, ac adroddiadau’r newyddion diweddaraf. Piciwch i mewn pryd mynnwch chi i weld sut mae gorsaf radio’n rhedeg.

Sul

Macramé Manwl

Lleoliad: Lloyds Enterprise Suite
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 11:00 - 12:30 Drop In

Dan arweiniad: Maria Paraschidou
Llefydd: 8
Categori: Crefft, Ffasiwn, Celfyddyd Weledol

Yn y gweithdy ymarferol yma fyddech yn dysgu sgiliau sylfaenol dull Macramé, ffurf o greu tecstilau wrth ddefnyddio cwlwm. Creuwch swyn allwedd Macramé eich hunain i fynd adref gyda chi.

Sul

Chwarae o Ran Hwyl

Lleoliad: Japan Room
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 11am – 12.30pm

Dan arweiniad: Flossy and Boo
Llefydd: 12
Categori: Theatre

Partner:
Rhondda Cynon Taff CBC

Gweithdy theatr/comedi awr a hanner yw “Chwarae o Ran Hwyl”, i bobl ifanc 11–16 oed. Fu gennych chi ddiddordeb erioed mewn sgrifennu, comedi, theatr, cerddoriaeth, perfformio, chwarae, clownio a gwneud eich straeon/dramâu eich hun? Os ydi hyn yn eich taro i’r dim, dewch i gael hyd i’ch ‘digri’ yn y gweithdy cyffrous a chwareus yma. Gweithdy comedi lle gallwch chi roi cynnig ar bethau mewn man cefnogol.

Sul

Arddangosfa: CODI

Lleoliad: Glanfa First Floor Balcony
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: Trwy'r ŵyl / All weekend

Dan arweiniad: Tom Arnold, Miriam Hughes, Marek Liska, Gwenllian Llwyd, Luke Mills, Kristina Nabazaite, Karl Nurse, Maria Paraschidou, Abi Preece, Luke Roberts, Sion Teifi
Llefydd: -
Categori: Ffotograffiaeth, Ffilm, Celfyddyd Weledol

Mae GŵylGrai yn falch iawn o gyhoeddi CODI, arddangosfa o waith celf gan 10 o artistiaid gyfra cynnar, wedi eu lleoli yng Nghymru, yn cynnwys paentio, print, cerflunwaith, delwedd symudol a sain.

Sul

Llunio Naratifau

Lleoliad: Lloyd's Enterprise Suite
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 11:00-12:30

Dan arweiniad: Jonny Wise
Llefydd: 8
Categori: Llenyddiaeth a'r Gair Llafar, Celfyddyd Weledol

Cwrs carlam mewn darlunio i gyfleu straeon wedi eu hysbrydoli gan ffynonellau gwahanol fel nofelau, cerddi a chaneuon. Darganfyddech fwy am rhai o'r artistiaid fwyaf cyffrous a'r gweithiau arbennig sy'n archwilio naratifau gweledol, a rhowch fywyd i destun wrth greu ymatebion artistig i ddarnau ysgrifenedig. I rai sydd efo diddordeb mewn darlunio gydag unrhyw lefel o brofiad, bydd y gweithdy yma yn eich dysgu sut i ddefnyddio a datblygu gosodiad, cymeriad a steil i ddarlunio straeon ysgrifenedig o bob ffurf.

Sul

Eco styling

Lleoliad: David Morgan Room
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 11.00 - 12.30

Dan arweiniad: Jasmin Sullivan
Llefydd: 12
Categori: Ffasiwn

Up-cycle your style into Summer 2019! What part is fast fashion playing in the harm of the environment? Learn a range of styling tips and tricks that aim to help you reduce your carbon footprint - and the amount you buy. Then make your own illustrated fabric patches that can be sewn onto your favourite garment. Whether it’s to jazz up your denim jacket, snazz up your shoes or to re-image a basic tote bag. Have something in your wardrobe you would like to re-invent? Bring it along to the session with you and Jasmin will support you in re-making it into something glamorous and fabulous for Summer 2019.

Sul

Jam Workshop

Lleoliad: Seligman Room
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 11.00 - 12.20 and 13.30 - 14.20

Dan arweiniad: RecRock
Llefydd: 15
Categori: Cerddoriaeth

Partner:
Anthem. Cronfa Gerdd Cymru Music Fund Wales

Come along and jam with other musicians. Bring your own instruments or use one provided by RecRock. All abilities welcome.

Sul

Ymladd ynteu Dianc – Chwarae Rolau Byw

Lleoliad: Ystafell Ymarfer 3
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 11.30 – 12.30

Dan arweiniad: Sparc Youth Theatre
Llefydd: N/A
Categori: Theatre

Wedi’u hysbrydoli gan themâu perthyn, ymladd a dianc, mae pobol ifanc Sparc yn gofyn i chi ymuno â nhw mewn sesiwn chwarae rolau gweithredu byw (LARP). Gan ddefnyddio chwarae rolau byddant yn chwilio beth mae’n ei olygu pan ddewiswch neu pan orfodir chi i adael y lle rydych yn ei alw’n gartref.

Sul

Bard in the Bay

Lleoliad: Stiwdio Weston
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 12:30 - 13:00

Dan arweiniad: Media Academy In the Bay
Llefydd: N/A
Categori: Theatre

Y perfformiad cyntaf erioed gan gwmni theatr ieuenctid newydd ‘Yn y Bae’!Yn cynnwys pobl ifanc 16-25 oed o amrywiaeth eang o gefndiroedd, mae’r cylch yn cyfarfod nos Lun yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Darn newydd ydi Bard in the Bay a grewyd gan y grw^p a’r cyfarwyddwr Chelsey Gillard yn rhoi stondin i’w hagwedd nhw ar destun clasurol.

Sul

Voices from Care

Lleoliad: Glanfa Stage
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 1pm - 1.30pm

Dan arweiniad: WMC & Voices from Care partnership
Llefydd: N/A
Categori: Cerddoriaeth

Come and have your Sunday uplifted with songs from musicals, films and pop music. Fun, upbeat and life-affirming.

Sul

Cheese!

Lleoliad: Glanfa
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 13:30 - 15:00

Dan arweiniad: Telemachus
Categori: Theatre

Mae Llygod Coedwig Grimms ar berwyl i brofi y gallan nhw fod yn sêr y sioe, ar ôl i’r cyfarwyddwr beidio â’u castio ….ETO FYTH!Smuda hi Brieonće! Hidiwch befo Paris Stilton!Dan ysbrydoliaeth yr arwyr Hollywood hyn, mae’r llygod yma’n eich gwahodd chi i sboncio ar ‘Deithiau’r Caws Mawr’ i gael tamaid o be sy ar fynd! Gwae’r Caerffili o ffili’i weld.Dychmygwyd, crëwyd a pherfformiwyd y perfformiad promenâd yma gan Telemachus, Theatr Ieuenctid Caerdydd Hijinx i bobl ifanc 16-24 oed.

Sul

Gweithdy Gwehyddu Igam-Ogam

Lleoliad: Lloyd's Enterprise Suite
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 13:30 - 15:00

Dan arweiniad: Lota Nóbrega
Llefydd: 8
Categori: Ffasiwn, Celfyddyd Weledol

Dysgwch hanfodion gwehyddu a'r camau cyntaf o greu tapestri hyfryd igam-ogam eich hunain yn y gweithdy gwehyddu yma, gyda'r artist celf gyfoes Lota. Cyfle ddysgu sut i gydosod ffrâm gwehyddu a'r dulliau hanfodol o greu tapestri hardd.

Sul

Podledu – Be Sy’n Chwip a Be Sy’ o Chwith

Lleoliad: Y Llyfrgell (Ystafell Sony)
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 1.30pm – 3pm

Dan arweiniad: Jane Cook, Bengo Media
Llefydd: 12
Categori: Ffilm, Llenyddiaeth a'r Gair Llafar

Partner:
Supported by Capital Apartments

Mae miliynau o bobl drwy hyd a lled gwledydd Prydain yn dechrau rheoli be maen nhw’n gwrando arno bob dydd ac yn llwytho i lawr bodlediadau ar bynciau maen nhw’n frwd drostyn nhw. Os oes gennych rywbeth i’w ddweud, mae podledu yn ffordd dan gamp o’i ddweud. Bydd y sesiwn yma’n eich cyflwyno chi i bodledu: beth yw podledu? Pwy sy’n gwrando? Wedyn mae’n rhoi canllaw ymarferol ar sut i gychwyn eich podlediad eich hun.Mae Jane Cook yn Bennaeth y Cyfryngau Cymdeithasol yn Bengo Media, ymgynghoriaeth podledu a sain flaenllaw Cymru.

Sul

The Thermidorians

Lleoliad: Rehearsal Room Three
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 14:00 - 14:40

Dan arweiniad: Volcano Youth Company
Categori: Theatre

A gathering of young men and women while away their time drinking, dancing and reading revolutionary tracts. Volcano Youth Theatre is well-known for its physical, risk taking performances. They make funny, adventurous theatre from whatever intrigues, infuriates or inspires young people. www.volcanotheatre.co.uk

Sul

Sioe ffaswn: Rwy’n Dylunio Breuddwydion

Lleoliad: Stiwdio Western
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 15:00 - 15:30

Dan arweiniad: N/A
Llefydd: N/A
Categori: Ffasiwn

"I don't design clothes. I design dreams," meddai Ralph Lauren. Mae’r sioe ffasiwn yma’n dangos beth mae pobol ifanc yn breuddwydio amdano’n awr. Bydd yn cynnwys dillad wnaed yn ystod yr ŵyl.

Sul

National Youth Wind Orchestra of Wales

Lleoliad: Neuadd Hoddinott 
Dyddiad: Sul 20 Awst, 2017
Amser: 15:30 - 17:30

Dan arweiniad: National Youth Arts Wales
Llefydd: N/A
Categori: Cerddoriaeth

In partnership with National Youth Arts Wales we are proud to present the National Youth Wind Orchestra of Wales as our final performance of the festival. Some of Wales’ most talented young musicians will perform a varied programme of fantastic music that will enthuse and inspire!