Cefnogwch Ni
Helpu RawFfest digwydd
Ni allai’r ŵyl yma ddigwydd heb gefnogaeth llawer o bobl, cyllidwyr a chyrff.
Partneriaid yr ŵyl
Partneriaeth bum corff ydi’r ŵyl yma, a roes eu hadnoddau i beri iddi ddigwydd:
- Canolfan Mileniwm Cymru - canolfan celfyddydau perfformio fflaglong Cymru
- Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru - y rhwydwaith ledled Cymru o ymarferwyr celfyddydau ieuenctid
- Casnewydd Fyw - yr Ymddiriedolaeth sy’n gyfrifol am hamdden a diwylliant yng Nghasnewydd
- Venue Cymru - yr oedfan o bwys yn Llandudno, Gogledd Cymru
- A2 Connect - Brings artists and educators together to share opportunities.
Cyllidwyr yr ŵyl
Cefnogir GŵylGrai yn garedig gan Ganolfan Mileniwm Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Mae’r Ŵyl hefyd yn ddiolchgar i:
- Anthem.Cronfa Gerdd Cymru Music Fund Wales am weithgaredd cerddoriaeth a gweithdai’r diwydiant cerddoriaeth, a ddarparir yn rhan o brosiect peilot.
- Sefydliad y Teulu Ashley am gefnogi rhaglen y celfyddydau gweledol,
- Capital Apartments am gefnogi’r rhaglenni syrcas a gweithdai,
- Tŷ Cerdd am gefnogi’r rhaglen allgyrch a gweithdai cerddoriaeth,
- Gwirvol and CWVYS am gefnogi’r rhaglen allgyrch uwch,
- Cronfa Gymuned y Lotri Genedlaethol am gefnogi cynlluniau mynediad a mentora cymheiriaid,
- Santander am gefnogi’r interniaethau tâl.
Mae’r ŵyl hefyd yn ddiolchgar i gefnogwyr lawer yr ymgyrch ariannu torfol a gododd £1,000 i gefnogi mynediad pobl ifanc dan anfantais.